Cefais fy ngeni a’n magu ar Fferm gwartheg eidion a defaid yma ar Sir Fôn. Mae Sioe Môn wedi bod yn un o uchafbwyntiau mis Awst ers yn blentyn ifanc, a chredaf nad ydwyf wedi methu un sioe! Mae’r sioe yn gyfle gwych i gymdeithasu, edrych o’ amgylch y stoc, blasu cynnyrch newydd, a chefnogi busnesau lleol.
Rydwyf yn ffermio gyda fy nhad ar ein Fferm deuluol, a bellach yn bartner yn ein busnes. Rwyf wedi bod yn aelod brwd o Fudiad y Ffermwyr Ifanc ers yn 10 mlwydd oed. Dyma Fudiad arbennig iawn, sydd wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu sgiliau, hyder ac yn darparu cyfleoedd amrywiol a defnyddiol iawn.
Commenti