top of page

Bod yn Aelod

Dyma eich cyfle i fod yn rhan o’r gymdeithas! Mae nifer o fuddion drwy ddod yn aelod o’r Gymdeithas, a gall unrhyw un ymuno. 

​

Mae buddion yn cynnwys:

  • Mynediad am ddim i'r Sioe ar y ddau ddiwrnod.

  • Defnydd o'r Babell Aelodau sydd wedi’i lleoli wrth y Prif Gylch gyda bar preifat - lle gwych i wylio'r prif gylch a chwrdd â ffrindiau.

  • Cylchlythyr chwarterol wedi anfon drwy e-bost neu’r post gyda manylion digwyddiadau, cystadlaethau a gweithgareddau. 

  • Derbyn manylion am unrhyw ddigwyddiadau sy’n digwydd ar y safle; 

  • Parcio blaen wedi ei leoli ger Maes y Sioe (dim sicrwydd o le ar ôl 10:30yb)

  • Prisiau gostyngedig ar logi’r safle, gan gynnwys Pafiliwn Môn, y Neuadd Fwyd a’r Hen Bafiliwn - cysylltwch gyda info@angleseyshow.org.uk

  • Cyfle i fod yn rhan o lunio polisiau y Gymdeithas yn ystod y Cyfarfod Blynyddol. 

  • Cyfle i fod y rhan o baratoi rhestr cystadlu’r Gymdeithas gan gynnwys dosbarthiasdau a gwobrau ayyb, yn ystod yr Is Bwyllgorau.

  • Hawl i gopiau o holl gyhoeddiadau’r Gymdeithas fel Rhestr Cystadlu a Gwobrau, Adroddiad Blynyddol ayyb. 

  • Ffioedd cystadlu gostyngedig ar adrannau mewn digwyddiadau Cymdeithas Amaethyddol Môn (ar wahan i geffylau neidio). 

​

Yn bwysicach na dim, drwy fod yn Aelod rydych yn cefnogi digwyddiad lleol gwych ac yn helpu i hyrwyddo amaeth i’r gymdeithas ehangach.

​

Prisiau Aelodaeth 2022

​

Aelodaeth sengl - £40
Aelodaeth ddeuol - £80
Aelodaeth Teulu - £90

​

Mae’r prisiau ar gyfer blwyddyn, ac yn cynnwys TAW. Mae Aelodaeth Teulu yn cynnwys 2 oedolyn a 2 blentyn (hyd at 16 oed).
 

bottom of page