top of page

Swyddi Gwag

Cymorthydd Clerigol – Dros Dro (llawn-amser neu rhan-amser) Mehefin - Medi

Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn trefnu Sioe Sir a gynhelir ar Awst 13eg a 14eg. Mae’r Gymdeithas yn edrych am berson arbennig i fod yn rhan hanfodol o’r tîm gweinyddol sy’n rhedeg y sioe. Bydd y swydd am gyfnod o gychwyn Mehefin tan ganol Medi. Gall y swydd fod yn llawn neu rhan amser. Bydd y person yn adrodd yn ôl i Swyddog Datblgu’r Gymdeithas.

 

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Y gallu i gyfathrebu’n rhwydd yn Gymraeg a Saesneg

  • Hefo gallu TG da, yn barod i ddysgu systemau meddalwedd

  • Cyflawni tasgau gweinyddol sylfaenol

  • Ateb ymholiadau dros y ffôn ac e-bost yn broffesiynol

  • Bod yn hyblyg i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau fel bo’r galw

  • Argaeledd i weithio ar benwythnosau neu gyda'r nos yn ystod y pythefnos olaf cyn y sioe

 

Cymwysterau Dymunol:

  • Dealltwriaeth neu ddiddordeb mewn amaethyddiaeth a chefn gwlad

 

Lleoliad: Swyddfa'r Gymdeithas, Maes Sioe Môn, Mona, Gwalchmai.

Bydd y cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.

 

Am ragor o wybodaeth ewch e-bost i:  info@angleseyshow.org.uk neu ffoniwch 01407 720072.

 

Ceisiadau ysgrifenedig gan gynnwys CV cyfredol at sylw: 

Miss Cain Owen,

Cymdeithas Amaethyddol Môn,

“Ty Glyn Williams”, Maes Y Sioe,

Gwalchmai, Caergybi,

Ynys Môn LL65 4RW.

neu e-bost i info@angleseyshow.org.

 

Dyddiad cau: Hanner Dydd, Dydd Gwener, 31ain o Fai 2024

bottom of page