Sioe Amaethyddol Môn 2025: Gŵyl o Etifeddiaeth, Cymuned ac Adloniant
- Anglesey Show
- 2 days ago
- 3 min read

Mae Sioe Môn yn dychwelyd unwaith eto eleni, yn addo dwy ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan. Cynhelir Sioe 2025 ar 12–13 Awst, a bydd yn gyfuniad cyffrous o draddodiad a chyffro, o styntiau llawn adrenalin yn y Prif Gylch, cerddoriaeth Gymraeg fyw, anifeiliaid o safon uchel, cystadlaethau cneifio, i fwyd lleol blasus, crefftau, a digwyddiadau ceffylau gwefreiddiol, dyma ddigwyddiad na ddylid ei golli.
Eleni, arweinir y Sioe gan y Llywydd, Mr Huw E Roberts, un a fu’n ymwneud â’r Sioe ers pan oedd yn blentyn yn dod gyda’i dad. Bellach, mae’n falch o gynrychioli teulu sydd wedi bod yn rhan annatod o’r digwyddiad, o arddangos defaid i gynnal a chadw’r safle.
“Mae gweld yr Adran Ddefaid yn ffynnu’n rhoi balchder mawr i mi,” meddai Mr Roberts. “Mae’r teulu cyfan yn chwarae rhan, mae fy merch yn helpu i’w rhedeg, mae’r bechgyn yn helpu gyda’r safle, ac mae fy ngwraig Anne yn arddangos ei Poll Dorset. Nid digwyddiad yn unig yw’r Sioe, mae’n ffordd o fyw.”
Mae ei stori’n adlewyrchu gwir ystyr y Sioe, cymysgedd unigryw o barhad ac esblygiad. O ddwylo ifanc yn llunio eu dyfodol ym maes amaeth, i arddangoswyr profiadol yn dychwelyd gyda stoc or safon uchaf.
Mae gan y Cadeirydd, Mr Gareth P Jones, stori debyg o gysylltiad dwfn ar sioe. Fel trydydd cenhedlaeth o gadeiryddion o deulu ffermio lleol, mae’n cofio’n iawn ei ddyddiau’n blentyn yn helpu gosod enwau siediau gwartheg ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau llysiau-anifeiliaid yn y babell cynnyrch.
“Mae’r Sioe wedi siapio fy mywyd,” meddai Mr Jones. “Ac erbyn hyn, rwy’n cael y cyfle i siapio’i dyfodol.”
O dan ei arweinyddiaeth, mae egni newydd wedi rhoi bywyd i’r traddodiadau. Ymhlith y datblygiadau diweddar mae’r ardal adloniant ‘Y Cowt’ wedi’i hadnewyddu, cystadleuaeth hwylus y Ras Big Bels, a phabell Aelodau sy’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn.
Gwefr Fawr yn y Prif Gylch – Profwch y Cyffro’n Agos!
Un o brif atyniadau 2025 yw Sioe Styntiau Beiciau Pedwar Olwyn Paul Hannam, a fydd yn taro’r Prif Gylch gyda sioe bythgofiadwy. Gyda dros 25 mlynedd o brofiad, mae Hannam a’r seren newydd Shaun Saturley yn addo styntiau heriol, gan neidio dros dractorau a cheir, ac yn cynnig cyffro i’r teulu cyfan.
A rhwng y sioeau, gall ymwelwyr alw heibio’r ardal rhyngweithiol i gwrdd â’r reidwyr a thynnu llun gyda’r beiciau stynt.
Dathliad Gwir o Gymru Wledig
Ond mae Sioe Môn yn fwy na dim ond adloniant, mae’n ddathliad llawn o amaeth, bwyd a diwylliant Cymreig. Ymhlith yr hyn sydd i’w weld:
· Miloedd o arddangosfeydd da byw
· Cystadlaethau ceffylau o’r safon uchaf
· Stondinau masnach gyda chrefftau, offer a thechnoleg wledig
· Babell Grefft a Cynnyrch fywiog
· Bwytai a stondinau bwyd lleol ffres
· Cerddoriaeth fyw a pherfformiadau o artistiaid Cymreig drwy’r dydd
A’r hyn sy’n gwneud y Sioe yn arbennig yw’r awyrgylch cynnes a chymunedol.
Tocynnau Ar Werth Nawr
Mae tocynnau ar gyfer Sioe Môn 2025 bellach ar gael ar-lein, gyda gostyngiadau cynnar i’r rhai sy’n archebu ymlaen llaw.
· Tocynnau unigol ar gael
· Opsiynau i deuluoedd
· Mynediad am ddim i blant dan 5 oed
Archebwch heddiw: www.angleseyshow.org.uk
Sioe Pawb
“Mae sioeau amaethyddol yn ffenestr siop i’n diwydiant,” meddai Mr Roberts. “Maen nhw’n ein hatgoffa pwy ydyn ni ac yn dangos i’r cyhoedd pam mae ffermio Cymreig mor bwysig.”
Mae Sioe Môn yn cael ei phweru gan gannoedd o wirfoddolwyr, stiwardiaid, aelodau CFFI a theuluoedd sy’n rhoi eu hamser flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae eu hymroddiad yn sicrhau bod y Sioe’n parhau i dyfu, heb golli ei gwreiddiau.
Boed eich diddordeb mewn styntiau peryglus, y cyfle i weld anifeiliaid yn agos, neu flasu bwyd Cymreig bendigedig. Mae gan Sioe Môn 2025 rywbeth i bawb.
Comments