CYFLA AM SWYDD - Cymorthydd Clerigol – Dros Dro (llawn-amser neu rhan-amser) Mehefin - Medi
- Anglesey Show
- Jun 5
- 1 min read
Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn trefnu Sioe Sir a gynhelir ar Awst 12fed a 13eg. Mae’r Gymdeithas yn edrych am berson arbennig i fod yn rhan hanfodol o’r tîm gweinyddol sy’n rhedeg y sioe. Bydd y swydd am gyfnod o ganol Mehefin tan ganol Medi. Gall y swydd fod yn llawn neu rhan amser. Bydd y person yn adrodd yn ôl i Brif Swyddog y Gymdeithas.
Mae’r swydd yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n rhwydd yn Gymraeg a Saesneg, bod hefo gallu TG da, a gallu defnyddio systemau meddalwedd i gwblhau tasgau gweinyddol sylfaenol. Bydd angen i’r person fod yn gallu delio hefo galwadau ffôn yn hyderus a phroffesiynol, ateb cwestiynnau dros y ffôn,ac yn gallu bod yn hyblyg i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau fel bo’r galw. Yn y bythefnos olaf cyn y sioe efallai bydd galw i’r person fedru gweithio rhywfaint ar benwythnos neu min nos.
Byddai diddordeb mewn amaeth neu gefn gwlad yn fanteisiol. Lleolir y swydd yn Swyddfa’r Gymdeithas, Maes Sioe Môn, Mona, Gwalchmai.
Bydd y cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.
Dylid anfon ceisiadau yn ysgrifenedig yn cynnwys CV cyfredol i: Miss Cain Owen, Cymdeithas Amaethyddol Môn, Ty Glyn Williams, Maes Sie Môn, Mona, Gwalchmai. LL65 4RW neu e-bost i info@angleseyshow.org. Tel: 01407 720072.
Dyddiad cau: Hanner Dydd, Dydd Gwener, 20fed o Fehefin, 2025
Kommentare