top of page

Llywydd Sioe

Llywydd Sioe 2023

Mr O Wyn Williams o Fferm Penrhyn, Llanfwrog

Anrhydedd a phleser oedd cael fy enwebu fel Llywydd Primin Môn am 2023! Rwyf wedi bod yn stiwardio yn yr adran gwartheg am 41 mlynedd, yn gyntaf gyda fy Nhad pan yr oeddwn yn 14 oed. Mi ddysgais llawer iawn am y swydd stiwardio wrth ddilyn arweiniad a cymorth gan fy Nhad.


Mi ddechreuais ddangos gwartheg bîff yn Sioe Môn yn 1986 yn ogystal â stiwardio ac yn dibynnu ar y teulu a ffrindiau i wneud y dangos. Mae yna ambell i lwyddiant wedi bod dros y blynyddoedd ond heb gael y brif wobr eto!


Mae’r sied wartheg yn un o’r cyfleusterau gora ar y gylched sioeau drwy’r Deyrnas Unedig, gyda chylchoedd dangos gwych, lle golchi'r gwartheg a lle cael cawod i’r arddangoswyr. Mae’r sioe yn golygu llawer iawn i mi a fy nheulu a phawb yn edrych ymlaen am y Primin pob blwyddyn. Rwyf wedi bod ar Gyngor y Sioe ers 1996 ac yn ddigon ffodus o gael fy ethol yn Gadeirydd y Cyngor yn 2009. Mae llawer wedi newid dros y blynyddoedd, ond mae’r tîm sydd ar y Cyngor, yn dîm arbennig iawn!. Ers 2019 rwyf wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith ac mae’r gwaith mae pawb wedi eu wneud dros y tair blynedd diwethaf wedi diogelu Primin Môn am flynyddoedd i ddod!

Show President.jpg

Dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd bod y Primin yn golygu llawer iawn i bob stiward a gwirfoddolwr sydd yn helpu ym mhob adran o’r Sioe. Ac mae bob adran o’r Sioe cyn bwysicaf â’i gilydd i greu awyrgylch gwych, fel bod pawb sydd yn dod trwy’r giatiau ar fore Mawrth a/neu Dydd Mercher yn mynd adra wedi mwynhau ac isio dod yn ôl y flwyddyn wedyn. Dydi hi ddim yn hawdd dyddiau yma i ffendio atyniadau newydd i ddiddori'r ymwelwyr.


I orffen, gai ddiolch i Sioe Môn am yr anrhydedd dros Gwen a finnau o fod yn Llywyddion am 2023. A diolch enfawr i John a Susan Mona Tractors am ei gwaith di-flino dros y tair blynedd diwethaf!


Diolch i bawb sydd yn gweithio mor galed i gynnal Sioe Môn.

Welwn ni chi yn y Sioe 2023!

Wyn a Gwen Williams
Fferm Penrhyn
Llanfwrog
Ynys Mon
 

bottom of page