
Sioe Sir Fôn
Croeso i wefan Sioe Môn. Yma cewch yr holl fanylion am Y Sioe sy’n digwyddiad blynyddol a gynhelir dros ddau ddiwrnod ym mis Awst ar Faes Sioe Môn. Rydym wedi'n lleoli yn Mona, yng nghanol harddwch yr Ynys, ers 1975 ond fe gynhaliwyd y sioe gyntaf erioed yn 1872!
Mae'r Sioe yn ddiwrnod gwych allan i'r teulu cyfan, lle gallwch ddarganfod cynnyrch lleol gwych a gweld:
Arddangosfeydd anifeiliaid a dosbarthiadau ceffylau o safon, Celf a chrefftau, stondinau bwyd a diod, amrywiaeth o Siopa’ ac Arddangosfeydd, Atyniadau'r Prif Gylch a'r Ffair.

Byddwch hefyd yn gallu pori drwy ystod eang o stondinau masnach sy’n arddangos popeth o beiriannau ffermydd a stondinau cerbydau i anrhegion a chynhyrchion lleol. Gallwch hefyd fwynhau perfformiadau byw, cerddoriaeth a gweithgareddau teuluol yn Y Cowt, sy’n ardal dynodedig o adloniant byw ar gyfer y Sioe.
Ydych chi'n gwybod y gallwch chi fod yn aelod o Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn? Mae bod yn aelod yn dod â llawer o fuddion; yn amrywio o ffioedd mynediad gostyngol ar draws adrannau’r Sioe, mynediad am ddim i’r Sioe yn ogystal â chefnogi amcanion y Gymdeithas. Porwch drwy'r wefan i ddarganfod manteision dod yn aelod.
Os hoffech Noddi, Brynu Tocynnau, neu arddangos eich busnes neu gynnyrch trwy wneud cais am stondin fasnach, ewch i'r tudalennau perthnasol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi cysylltu â ni.
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu!




