Mr Gareth P Jones
Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Môn 2025
Roedd hi’n bleser o’r mwyaf cael fy ethol i fod yn Gadeirydd Sioe Môn eleni. Fel mab a ŵyr i ddau gyn-gadeirydd y Gymdeithas, mae’n anrhydedd cael camu i’r swydd hon. Rwyf yn ffermwr llaeth wedi fy magu ar fferm Sarn, Llanfechell, a bellach yn byw lawr y lôn ar fferm Carrog Ganol yn Rhosgoch, gyda fy ngwraig, Mari, a’n meibion, Huw a William.
Mae bod yn rhan o’r Gymdeithas a chynorthwyo gyda threfniadau’r Sioe wedi bod yn rhan bwysig o’m magwraeth. Un o’r atgofion cyntaf sydd gennyf ydi dod gyda fy rhieni, ar benwythnos cyn y Sioe, i osod enwau’r cystadleuwyr yn y sied wartheg. Wrth gyrraedd maes parcio’r aelodau ben bore, roeddwn i’n methu disgwyl i weld os mai Taid oedd y car cyntaf i gyrraedd y flwyddyn honno ai peidio! Byddwn yn edrych ymlaen at gystadlu gyda’r ardd fach a’r anifail wedi ei wneud o ffrwythau neu lysiau yn y babell gynnyrch. Wrth fynd ychydig yn hŷn, bûm yn cystadlu yn yr “Young Handlers,” ambell waith gyda heffer neu fustach fy hun, ac ambell waith, yn cael benthyg llo Henffordd gan deulu Sylwebir. Roedd helpu i stiwardio yn y “Grand Parade” bob blwyddyn yn rhan bwysig o’r Sioe i mi, gan ymfalchïo pan oedd pob dim wedi mynd yn hwylus ar ôl i’r cystadleuwyr adael y cylch!
Rwyf wedi bod yn aelod o Gyngor y Gymdeithas ers rhai blynyddoedd bellach. Wrth ymuno â’r pwyllgor, mae rhywun yn sylweddoli cymaint o waith sy’n mynd i drefnu’r Sioe. Mae’n cymryd sawl blwyddyn i ddysgu a deall am holl agweddau’r Sioe – ac rwyf yn dal i ddysgu. Dysgu am osodiad y maes, protocol pwyllgorau, materion gweinyddol, digwyddiadau ychwanegol ar y maes, cyfrifon y gymdeithas a llawer o bethau eraill – mae’n cymryd amser i ddod yn hyddysg yn y pethau hyn i gyd.
Mae yna griw gweithgar o swyddogion a gwirfoddolwyr yn rhan o drefnu’r Sioe, cymysgedd o aelodau profiadol ag aelodau ifanc brwdfrydig sy’n cydweithio yn effeithlon. Mae’n galonogol gweld cymaint o aelodau ifanc nawr ar bwyllgorau’r Gymdeithas. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n helpu ac yn trefnu - ni fyddai’n bosib cynnal sioe hebddynt. Mae datblygu’r gymdeithas mor bwysig er mwyn sicrhau dyfodol disglair i’r Sioe. Mae sawl syniad newydd wedi dod i fodolaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Cowt, Brwydr y Bêls a Phabell yr Aelodau ar ei newydd wedd wedi bod yn llwyddiant mawr. Bydd atyniad mawr yn dychwelyd i’r Prif Gylch eleni wrth i feiciau modur pedair olwyn, Paul Hannam, berfformio.
Mae Sioe Môn yn uchafbwynt y flwyddyn i lawer iawn o bobl cefn gwlad Môn. Mae’n gyfle i ddangos ein cynnyrch lleol, anifeiliaid o’r safon uchaf a chael cymdeithasu gyda hwn a’r llall. Rwyf yn edrych ymlaen at weld pawb yn Sioe Môn 2025 ac yn dymuno Sioe lwyddiannus i’r holl gystadleuwyr, arddangoswyr a busnesau.
