Mr Huw E Roberts
Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Môn 2025
Mae’n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn Llywydd y Sioe eleni. Prin y byddwn wedi dychmygu, pan oeddwn yn hogyn ifanc yn dod i Sioe Môn gyda fy nhad, y byddwn i yma heddiw fel Llywydd. Mae’r Sioe wedi bod yn rhan mawr o fy mywyd, ac mae’n fraint cael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas. Rwy’n ffermio yng Nglan Gors, Llangaffo ers 1982, ac mae fy nheulu i gyd yn rhannu’r un angerdd dros amaeth a’r Sioe. Mae fy merch, Catrin, yn cyd-redeg yr Adran Ddefaid yn ystod y Sioe, tra bod fy meibion – Iwan, Dylan a Gerallt – yn helpu i gynnal a chadw safle’r adran.
Dechreuodd fy nhaith ym myd arddangos nid gyda defaid, ond gyda cheffylau Mynydd Cymreig Adran A. Cefais y fraint o fwynhau cryn dipyn o lwyddiant mewn sioeau mawreddog fel y Sioe Frenhinol Cymru, ac wrth gwrs, yma yn fy sioe leol, Sioe Môn. Roedd hyn yn gam cyntaf i mi yn y byd arddangos, a arweiniodd yn y pen draw at arddangos defaid – rhywbeth sydd bellach yn rhan enfawr o fy mywyd a rhan annatod o gyfraniad fy nheulu i'r Sioe.
Rwyf wedi bod yn brif stiward yr Adran Ddefaid ers 2016 ac yn falch iawn o weld yr adran yn mynd o nerth i nerth. Mae fy ngwraig, Anne, hefyd yn chwarae rhan fawr yn ystod y sioe yn cynorthwyo, diolch am ei chefnogaeth ddi-baid nid yn unig yn ystod y Sioe, ond drwy gydol fy swydd fel Llywydd eleni. Fel teulu, rydym wedi bod yn arddangos defaid yn y Sioe ers blynyddoedd, ac mae fy ngwraig, Anne, yn dangos ei defaid Poll Dorsets tra fy mod innau’n dangos Wiltshire Horns. Mae’n fraint cael bod yn rhan o draddodiad mor bwysig a mae’r Sioe yn rhoi cyfle gwych i arddangos ein gwaith a chysylltu â ffermwyr eraill.
Un o’r pethau mwyaf gwerthfawr am fod yn rhan o’r Sioe yw’r cyfle i gwrdd â ffermwyr o bob cwr o’r wlad, adeiladu cysylltiadau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae’r gefnogaeth sydd i’w chael ymhlith ffermwyr yn amhrisiadwy – mae’n bwysig ein bod ni’n codi ein gilydd, cefnogi’n gilydd, a dangos i’r cyhoedd beth all ffermwyr Cymru ei wneud. Mae sioeau amaethyddol yn ffenest siop i’n diwydiant – yn gyfle i ni ddathlu ein gwaith, i addysgu’r cyhoedd ac i ddangos ein harbenigedd a’n hymroddiad i ffermio.
Drwy’r blynyddoedd, cefais y fraint o fod yn Gadeirydd y Cyngor yn 2019, ac llynedd, cefais y pleser o feirniadu pencampwriaeth y rhwngfridiau – profiad fyddwn i byth yn ei anghofio. Fel Llywydd, rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus i’r Sioe. Hoffwn annog unrhyw un sy’n ystyried wirfoddoli i ddod yn rhan o’r Sioe – mae wedi bod yn bleser i’n teulu ni fod yn rhan o’r Gymdeithas, ac mae’r cyfleoedd a’r cysylltiadau sy’n dod gyda hynny yn amhrisiadwy.
Wrth gwrs, ni fyddai hyn i gyd yn bosib heb gefnogaeth y staff, y gwirfoddolwyr, a phawb sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod y Sioe yn llwyddo flwyddyn ar ôl blwyddyn. Diolch o galon i bawb, yn enwedig i’r stiwardiaid yn yr Adran Ddefaid, am eu gwaith gwych.
Rwy’n dymuno pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan yn y Sioe eleni, ac, wrth gwrs, gobeithio y cawn dywydd braf! Diolch yn fawr iawn!
