top of page

Y Gymdeithas

Cymdeithas Amaethyddol Môn yw perchnogion balch Maes Sioe Môn, safle 160 erw. Mae maes y sioe yn safle gwych sydd wedi'i leoli'n ddelfrydol yng nghanol Ynys Môn, gyda mynediad hawdd o'r ffordd fawr a phorthladd Caergybi gerllaw. Mae gan y safle nifer o gyfleusterau sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Dechreuodd Cymdeithas Amaethyddol Môn gynnal sioeau blynyddol yn 1872. Dros y blynyddoedd, mae’r sioe wedi datblygu, addasu a thyfu i gyd-fynd â’r newidiadau mewn cymdeithas.

Heddiw rydyn ni'n cynnal prif sioe'r haf fel digwyddiad deuddydd bob mis Awst. Rydym hefyd yn cynnal sioe aeaf a sawl digwyddiad arall trwy gydol y flwyddyn. Mae gennym gyfleusterau helaeth ar gael i'w llogi drwy gydol y flwyddyn. Rydym wedi ein lleoli yng Ngwalchmai, Ynys Môn ac mae gennym 136 erw (sef bron i 73 o gaeau pêl-droed!).

Mae'r Sioe Haf Flynyddol yn denu tua 60,000 o bobl! Yn ogystal â’r olygfa o’r anifeiliaid a’r da byw sydd wedi’u cyflwyno’n wych, mae gan y sioe gymaint mwy i’w fwynhau: pafiliwn siopa ac arddangos, digwyddiadau marchogaeth, arddangoswyr crefft, arddangosfeydd niferus o’r llysiau a’r blodau cartref gorau, yn ogystal â llawer mwy. .

History

Hanes

Cafodd Cymdeithas Amaethyddol Môn ei lansio am y tro cyntaf ar Fai 12fed a Mehefin 6ed 1808. Nod y gymdeithas oedd datblygu a meithrin diwygiadau ar draws y sbectrwm amaethyddol cyfan.

Cynigwyd dau bremiwm am anifeiliaid am y tro cyntaf ym 1812, ond ni chynhaliwyd “sioe” fel y gwelir heddiw hyd 1820, lle cafodd 15 premiwm, yn amrywio o 1-10 ginis, eu dyfarnu.    

 

​Erbyn canol yr 1840au, roedd y byd amaeth wedi’i barlysu gan glwy’r tatws, ac roedd Cymdeithas Amaethyddol Môn wedi mynd i’r gwellt erbyn 1846.

Ar ôl i Syr Richard Williams-Bulkeley siarad am y pethau da a gyflawnwyd gan y gymdeithas wreiddiol, sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Môn a Sir Gaernarfon newydd ar Hydref 13eg 1851. Penderfynwyd trefnu sioe flynyddol ym Mangor, Caernarfon a Llangefni yn eu tro.

Erbyn 1872, roedd ffermwyr Ynys Môn yn protestio am orfod talu tollau’r bont er mwyn cludo eu hanifeiliaid i’r sioeau ar y tir mawr, gan achosi iddynt dorri ymaith a symud yn ôl at Gymdeithas Amaethyddol Môn (unwaith eto).


Ar Mai 23 1872, cynhaliwyd cyfarfod i lunio amserlen ar gyfer premiymau ac i ethol swyddogion ar gyfer y gymdeithas newydd. Llwyddodd y gymdeithas newydd i ddenu cefnogaeth o rannau llawer mwy eang o’r gymdeithas na’i rhagflaenydd. Rhwng 1872 a 1902, roedd nifer y premiymau ar gael wedi dyblu mewn nifer.

Yn ystod y Rhyfel Mawr, cafodd y sioe ei gohirio, a chafodd ei hail-lansio ym 1920. Ond ni lwyddodd i gyrraedd yr un safon hyd nes canol y 1930au. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd y sioe ddatblygu ac addasu i’r her o ddiwallu anghenion cymdeithas a oedd yn newid. Erbyn 1955, roedd y sioe yn denu 14,000 o ymwelwyr.

Yn y 1960au, gydag amaeth yn ffynnu a J.Glyn Williams wrth y llyw, dechreuodd y sioe ddatblygu a thyfu. Cafodd treialon cŵn defaid eu cyflwyno unwaith eto a chynhaliwyd arddangosfeydd trin gwallt am y tro cyntaf erioed. Sioe 1967 oedd y cyntaf i’w chynnal ym Mona gan ddenu dros 20,000 o ymwelwyr. 

Erbyn 1970, roedd wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad deuddydd gan adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas. Roedd hyn yn cynnwys pwysigrwydd cynnig arlwy i’r diwydiant twristiaeth, ond nid ar draul anghenion y diwydiant ffermio. Ym 1975, cafodd y sioe ei chynnal ar ei safle ei hun am y tro cyntaf erioed. Ar ôl i’r rhent am faes awyr Mona gynyddu, aeth y gymdeithas ati i fuddsoddi £54,000 yng Nglan Gors Ddu, fferm 136 o erwau ger Gwalchmai.

Erbyn 1976, roedd y sioe yn cael ei chydnabod fel un o’r goreuon yng Nghymru, gan ddenu 50,000 o ymwelwyr.

Darganfod Mwy

Llogi safle
Bod yn Aelod 
Sioe Sir Fôn
Cysylltwch
bottom of page