top of page

Sioe Gŵn

Adran Cŵn Hwyl Sioe Môn

​

Cyfle gwych i berchnogion o bob oed ddangos eu ffrindiau pedair coes.
 
Cynhelir y Sioe Gŵn am 2.00pm ar ddau ddiwrnod y sioe yn Cylch Cefn y Ceffylau. Galwch draw i weld y Stiward ymlaen llaw i gystadlu.

​

£2.00 y dosbarth i gystadlu.

​

Pencampwr Cyffredinol yn ennill £20.00, gyda gwobr o £10 i Bencampwr Wrth Gefn.

​

Pob lwc!
 

Dosbarthiadau:

​

Ci bach gorau 6 mis ac iau
Ci bach gorau 6 mis i flwydd
Merch ddela (ci benywaidd gorau 1 oed)
Hogyn smart (ci gwrywaidd gorau)
Ci hyn gorau 10+ oed
Tywyswr ifanc gorau o dan 10 oed
Tywyswr ifanc gorau 10-16 oed
6 coes gorau
Clustiau hiraf
Ci achub gorau
Ci fyddai’r beirniad yn hoffi mynd a adra
Tric gorau
Ci sy’n edrych fwyaf fel ei perchenog
Ci gyda’r gynffon bywiog
Gwisg ffansi

 

DSC_1537.JPG
DSC_1354.JPG
DSC_1904.JPG
DSC_2571.jpg
bottom of page