
Neges Canslo
Diweddariad Pwysig: Canslo Digwyddiadau
Mae’n ddrwg gennym eich hysbysu bod y digwyddiadau a oedd i’w cynnal ar Faes Sioe Môn ar y 27ain, 28ain a 29ain o Fehefin wedi’u canslo. Gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd problemau annisgwyl ar ochr y tîm trefnu, ac yn anffodus, maent wedi gorfod tynnu’n ôl o’u trefnu.
Rydym yn hynod siomedig gan ein bod yn gwybod faint o bobl oedd yn edrych ymlaen at y gwyliau hyn. Mae Novoco, y cwmni y tu ôl i’r digwyddiadau, yn gweithio ar hyn o bryd i brosesu ad-daliadau i'r rhai sydd wedi prynu tocynnau.
📧 Am unrhyw ymholiadau ynghylch ad-daliadau neu wybodaeth bellach, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiadau yn uniongyrchol:
📩 hello@campfirefestival.co.uk
📩 hello@beatmastersfestival.co.uk
📩 hello@weloveitfestival.co.uk
Gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth ac anogwn unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr. Sylwch nad yw ein swyddfa yn delio ag ad-daliadau tocynnau na chwestiynau am y digwyddiadau.
Diolch am eich amynedd.