Swydd Haf - Cymorthydd Clerigol
- Anglesey Show

- Mar 28
- 1 min read
Cymorthydd Clerigol – Dros Dro (llawn-amser neu rhan-amser) Dechrau Mai i Ganol Medi
Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn trefnu Sioe Sir Fôn (Y Primin) a gynhelir eleni ar Awst 11eg a 12fed. Mae’r Gymdeithas yn edrych am berson arbennig i fod yn rhan hanfodol o’r tim gweinyddol sy’n rhedeg y sioe. Bydd y swydd am gyfnod o ganol fis Mai tan ganol Medi. Gall y swydd fod yn llawn neu rhan amser. Bydd y person yn atebol i
Reolwr Llinell a apwyntir gan Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas.
Mae’r swydd yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n rhwydd yn Gymraeg a Saesneg, bod hefo gallu TG da, a gallu defnyddio systemau meddalwedd yn hyderus i gwblhau tasgau gweinyddol sylfaenol. Bydd angen i’r person fod yn gallu delio hefo galwadau ffôn yn hyderus a phroffesiynol, ateb cwestiynnau dros y ffôn, ac yn gallu bod yn hyblyg i
ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau fel bo’r galw. Yn y bythefnos olaf cyn y sioe efallai bydd galw i’r person fedru gweithio rhywfaint ar benwythnos neu min nos, a thrwy wythnos y Sioe.
Byddai diddordeb mewn amaeth neu gefn gwlad yn fanteisiol. Lleolir y swydd yn Swyddfa’r Gymdeithas, Maes Sioe Môn, Mona, Gwalchmai.
Bydd y cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.
Dylid anfon ceisiadau yn ysgrifenedig yn cynnwys CV cyfredol i: Cyfarwyddwyr, Cymdeithas Amaethyddol Môn, Ty Glyn Williams, Maes Sioe Môn, Mona, Gwalchmai.
LL65 4RW neu e-bost i info@angleseyshow.org.uk. Ffôn 01407 720072.
Dyddiad cau: Hanner Dydd, Dydd Llun, 20fed o Ebrill, 2026.


Comments