
Croeso
Llogi'r Safle
Maes Sioe Môn
Llogi Maes Sioe Môn
Croeso i wefan Maes Sioe Môn. Mae'r safle, sy’n 136 acer yn ei chyfanrwydd, yn cynnig ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael i'w llogi ar gyfer eich digwyddiad, waeth pa mor fawr neu fach ydyw, gallwn ddarparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau.
Mae'r safle'n manteisio ar:
+ Pŵer Trydan ‘3 phase’
+ Cysylltiadau dŵr a thrydan ledled prif ardaloedd y caeau
+ Pafiliwn aml-bwrpas gyda chegin, ystafell gyfarfod ac ystafelloedd gwaith
+ Neuadd gyda thoiledau a chawodydd
+ Pafiliwn Bach gyda chegin a thoiledau
+ Caeau parcio ceir
+ Sied Gneifio
+ Pinnau Defaid Cysgodol
+ Caeau Gwersylla
Cysylltwch â ni heddiw i drefnu ymweliad o’r safle a llenwch y ffurflen isod i greu ymholiad.
Edrychwn ymlaen at drafod eich digwyddiad gyda chi ac i arddangos beth all ein cyfleusterau eu cynnig.

