Neges gan y Llysgennad
- Cymdeithas Amaethyddol Môn

- Aug 3
- 3 min read

Mae’n fraint ac yn anrhydedd enfawr cael gwasanaethu fel Llysgennad Cymdeithas Amaethyddol Môn eleni. Fel rhywun sydd wedi cael ei magu ar yr ynys ac sydd wedi elwa’n fawr o’r gymuned amaethyddol, ddiwylliannol a chymdeithasol sydd mor unigryw i Fôn, mae’r rôl hon yn golygu mwy i mi nag y gall geiriau ei fynegi.
Cefais fy magu gyntaf yng Nghemlyn ac wedyn ym Mhorth Swtan. Fe gafodd fy addysg ei llunio yn Ysgol Cylch y Garn, Llanrhuddlad ac yna Ysgol Uwchradd Bodedern, cyn i mi symud ymlaen i Brifysgol Aberystwyth i astudio – cam a agorodd fy llygaid i gyfleoedd newydd ond a gadarnhaodd hefyd pa mor ddwfn oedd fy nghysylltiad â chartref.
Ar ôl graddio, treuliais flwyddyn yng Nghaerdydd yn gweithio gyda’r Urdd fel swyddog Cymunedol Morgannwg Ganol. Ond, fel mae’n digwydd i lawer ohonom, roedd galwad y gogledd yn rhy gryf, ac felly dychwelais adref, ac rwyf Bellach wedi prynu tŷ gyda fy nghariad, Mared Fflur, yng Nghaernarfon. Er hyn, da ni’n dwy yn treulio y rhan fwyaf o’n hamser yr ochr cywir i’r bont gan fod yn aelodau o Ffermwyr Ifanc Rhosybol, Côr Esceifiog a Theatr Fach Llangefni.
Un o’r sefydliadau sydd wedi siapio fy mywyd fwyaf yw’r Ffermwyr Ifanc. Rwyf wedi bod yn aelod brwd o glwb Rhosybol ers tair blynedd ar ddeg. Bellach rwyf yn Is-gadeirydd Hyfforddiant Sirol, ac wedi gweld drosof fy hun pa mor bwysig yw’r mudiad i ddatblygu sgiliau, hyder a chyfeillgarwch. Mae’r Ffermwyr Ifanc yn fwy na chlybiau – maent yn deulu, yn ysgol bywyd, ac yn fan cychwyn i arweinwyr y dyfodol. Heb y mudiad hwn, ni fyddwn yn sefyll yma heddiw fel Llysgennad.
Fel soniais ynghynt, yn ogystal â’r byd amaethyddol, mae’r celfyddydau wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd. Rwy’n aelod o Gôr Esceifiog ac o Theatr Fach Llangefni lle rwy’n falch o eistedd ar y pwyllgor. Mae’r ddau sefydliad hyn wedi rhoi llwyfan i mi dyfu, perfformio, a bod yn rhan o gymuned greadigol fywiog sy’n adlewyrchu talent anhygoel yr ynys. Rwyf hefyd wedi cael y fraint o wasanaethu fel Llywydd yr Urdd a Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) – profiadau a’m dysgodd sut i wrando, sut i arwain, a sut i sefyll dros yr hyn sy’n bwysig i’n cymunedau Cymraeg.
Dyna pam mae cael fy newis fel Llysgennad i Gymdeithas Amaethyddol Môn yn teimlo fel dod â’r daith hon i gyd at ei gilydd. Mae’r gymdeithas hon yn cynrychioli popeth rwy’n ei werthfawrogi: traddodiad, arloesedd, cymuned, a’r balchder sy’n dod o’n tir a’n pobl.
Hoffwn ddiolch o galon i’r Gymdeithas am y fraint o gael y rôl hon. Wedi mwynhau’n fawr fy mlwyddyn fel Dirprwy Lysgennad llynedd, rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael rhoi fy stamp fy hun ar y Gymdeithas eleni. Mae’r profiad wedi fy ysbrydoli, ac rwy’n benderfynol o gefnogi’r Gymdeithas i fynd o nerth i nerth.
Mae’r sioe flynyddol yn fwy na digwyddiad amaethyddol – mae’n ddathliad o’n hunaniaeth. Mae’n gyfle i arddangos gwaith caled ffermwyr, crefftwyr, busnesau lleol ac ieuenctid talentog. Mae’n fan cyfarfod i hen gyfeillion ac yn fan croeso i genedlaethau newydd. Ac mae’n bleser cael bod yn rhan o’r traddodiad hwn, gan weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr sy’n rhoi cymaint o’u hamser a’u hegni.
Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod, rwy’n gobeithio y gallaf fod yn llais cadarnhaol, yn wyneb cyfeillgar, ac yn eiriolwr brwd dros bopeth sy’n gwneud Môn yn le mor arbennig.
Diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o fy nhaith hyd yma – fy nheulu, fy nghariad, fy ffrindiau, fy nghlybiau, a’r sefydliadau sydd wedi fy ngwneud yn berson hyderus ac ymroddedig. Heb eich cefnogaeth chi, ni fyddwn yma heddiw.
A diolch unwaith eto i Gymdeithas Amaethyddol Môn am y cyfle. Rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn o ddathlu, o gydweithio ac o adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn bodoli. Gadewch i ni wneud 2026 – 27 yn flwyddyn i’w chofio.
Mared Edwards
Llysgennad
Cymdeithas Amaethyddol Môn
