Croeso gan y Cadeirydd
- Cymdeithas Amaethyddol Môn

- Aug 3
- 2 min read
Mae’n fraint ac yn anrhydedd enfawr cael gwasanaethu fel Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Môn unwaith eto. Mae Sioe Môn wedi bod wrth galon amaethyddiaeth yr ynys ers cenedlaethau, ac mae’n parhau i fod yn gyfle i ddathlu ein diwydiant, arddangos y safon uchel o dda byw, crefftwaith a chynnyrch lleol, ac i ddod â’r gymuned ynghyd.
Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol, mae’n braf gweld y gefnogaeth barhaus gan ein haelodau, noddwyr, arddangoswyr a chystadleuwyr. Mae’r ymroddiad a’r angerdd sy’n cael eu rhoi i baratoi ar gyfer y sioe bob blwyddyn yn gwneud Sioe Môn yn ddigwyddiad arbennig, ac mae’n bleser gweld cystadleuwyr yn teithio o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gystadlu yma ar Ynys Môn.
Mae’r Gymdeithas yn parhau i fuddsoddi yn nyfodol y maes sioe. Yn dilyn y buddsoddiad yn y corlannau gwartheg yn 2025, rydym wedi gweld gwelliant amlwg i’r cyfleusterau a’r adborth gan arddangoswyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. Eleni rydym wedi parhau i wella’r safle drwy fuddsoddi mewn Wi-Fi, hygyrchedd, cawodydd a thoiledau yn y sied wartheg, ynghyd â cyfleusterau newydd yn y Neuadd Fwyd. Mae’r gwelliannau hyn yn sicrhau bod y maes yn parhau i ddatblygu, nid yn unig ar gyfer y sioe, ond hefyd ar gyfer y nifer cynyddol o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r maes wedi bod yn brysur iawn dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yn fraint cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a oedd yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle gwych i groesawu miloedd o ymwelwyr i’r ynys. Yn ogystal, rydym wedi croesawu nifer o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys Can i Gymru, Rali Ffermwyr Ifanc Cymru, y Bencampwriaeth Flyball Genedlaethol a llawer mwy.
Mae’n braf gweld Y Cowt yn mynd o nerth i nerth, gyda rhaglen adloniant sy’n apelio at bob oed, ac ychwanegiadau newydd fel y Babell Synhwyraidd. Mae’r stondinau masnach yn parhau i dyfu hefyd, gyda busnesau newydd yn ymuno â ni bob blwyddyn, gan wneud y sioe yn arddangosfa wych o fusnesau, cynnyrch a gwasanaethau lleol.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi dod â newidiadau yn swyddfa’r Gymdeithas. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Elen, Gwenno, Elin a Hellen am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb drwy gyfnod prysur iawn. Diolch hefyd i’r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i gefnogi’r swyddfa dros y flwyddyn ddiwethaf , mae eich cymorth wedi bod yn amhrisiadwy.
Hoffwn hefyd ddiolch i Gareth Jones am ei waith ar y maes, i John Owen am ei gefnogaeth barhaus, ac wrth gwrs i Murphy, sy’n gwneud gwaith arbennig yn sicrhau bod y maes bob amser yn daclus ac yn barod i’n croesawu.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb sy’n gwneud Sioe Môn yn bosibl, ein gwirfoddolwyr, ein swyddogion, ein stiwardiaid, ein beirniaid, ein noddwyr, ein haelodau, ein harddangoswyr a’n cystadleuwyr. Heb eich cefnogaeth a’ch ymroddiad, ni fyddai’r sioe hon yn bosibl.
Ar ran Cymdeithas Amaethyddol Môn, estynnaf groeso cynnes i chi gyd. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau dau ddiwrnod gwych yn Sioe Môn 2026, ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y maes.
Wyn Williams
Cadeirydd
Cymdeithas Amaethyddol Môn
