11 Tach 2026

Penodi Gwenno Pugh fel Prif Swyddog newydd Cymdeithas Amaethyddol Môn

Maes Sioe Môn

Mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn falch iawn o gyhoeddi a chroesawu Gwenno Pugh fel Prif Swyddog newydd y Gymdeithas. Mae Gwenno yn wyneb cyfarwydd i lawer ohonom, yn ffarmwraig leol ac wedi gweithio fel Swyddog Gweinyddol y Gymdeithas ers sawl blwyddyn bellach, gyda chyfrifoldeb dros Stondinau Masnach ynghyd ag ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau eraill oddi fewn ei rôl yn y Gymdeithas.

Gwenno Pugh, Prif Swyddog Cymdeithas Amaethyddol Môn

Dywed Gwenno: “’Rwy’n falch o fod wedi derbyn y swydd Prif Swyddog, ac yn edrych ymlaen at gyflawni’r rôl a’i ddyletswyddau amrywiol. ‘Rwy’n awyddus i gryfhau a hyrwyddo’r Gymdeithas, y Safle a’r Sioeau Haf a Gaeaf er mwyn sicrhau eu dyfodol a’u ffyniant. Edrychaf ymlaen at gyd-weithio hefo holl aelodau, gwirfoddolwyr a chyfranwyr eang Y Gymdeithas, a fy ngobaith yw atgyfnerthu nodau ac amcanion y Gymdeithas a chynyddu’r cyfleoedd hyrwyddo a llogi’r safle unigryw ac aml-ddefnydd hwn.”

Dywed Wyn Williams, Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Môn: “Mae’n fraint cael penodi Gwenno fel ein Prif Swyddog. Mi weithiodd yn ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant Sioe Môn, ac wedi cynnal ei Sioe Aeaf gyntaf fel Prif Swyddog yn ddiweddar. Edrychwn ymlaen hefo sicrwydd at y dyfodol, a chael cyd-weithio hefo Gwenno er mwyn parhau datblygiad y Safle a’r Gymdeithas.”

Wrth i’r gaeaf a’r Nadolig prysur ein cyrraedd, mi fydd y swyddfa ar gau ar Ddyddiau Iau, ond gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio ar unrhyw adeg info@angleseyshow.org.uk.

Os bydd gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â Sioe Môn, Sioe Aeaf Môn, Y Gymdeithas neu llogi’r Safle, cysylltwch â Gwenno. Gallwch hefyd alw heibio’r swyddfa neu gysylltu trwy’r wefan: angleseyshow.org.uk.

Edrychwn ymlaen at gael cyd-weithio yn y dyfodol, a’ch croesawu yn Sioe Môn 2027.

← Pob neges