SWYDD WÂG - Prif Swyddog
- Cymdeithas Amaethyddol Môn

- Aug 24
- 1 min read
Cyflog Graddfa NJC Pt 28 i 31 (£38,220 I £42,839)
Fel un o Gymdeithasau Amaethyddol hynaf a mwyaf llewyrchus Cymru, mae’r Gymdeithas eisiau recriwtio Prif Swyddog i weithio gyda Swyddogion Etholedig ac Aelodau’r Gymdeithas i weinyddu a datblygu’r Gymdeithas a sicrhau bydd y Gymdeithas yn goroesi yn llwyddiannus i’r 200 mlynedd nesaf.
Disgwylir i’r person llwyddiannus
drefnu rhaglen eang o weithgareddau amaethyddol a gwledig, yn cynnwys y Sioe Haf a’r Sioe Aeaf, ac amrywiol weithgareddau eraill y Gymdeithas.
rhoi arweiniad i staff llawn-amser a rhan-amser y Gymdeithas
cyd-weithio a datblygu’r gronfa o Wirfoddolwyr sydd gan y Gymdeithas
Cadw Cyfrifon a Llyfrau Ariannol y Gymdeithas
goruchwylio a sicrhau bod y Gymdeithas yn cydymffurfio gyda’r gofynnion Iechyd a Diogelwch angenrheidiol
datblygu gwasanaeth gweinyddol effeithiol yn defnyddio meddalwedd diweddaraf ar gyfer rhedeg Sioeau
Datblygu presenoldeb y Gymdeithas ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Datblygu a Marchnata’r defnydd o’r safle ac adeiladau’r Gymdeithas
Ymchwilio ac ymgeisio am grantiau allai fod ar gael i’r Gymdeithas
Gweithio gyda’r aelodau I sicrhau nawddogaeth i weithgareddau’r Gymdeithas
Am fanylion llawn neu i wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV, ac enw a chyfeiriad Dau Ganolwr, gyda o leiaf un yn gyflogwr presennol i: Gymdeithas Amaethyddol Môn Tŷ Glyn Williams Safle Sioe Môn Mona, Gwalchmai Ynys Môn LL65 4RW Neu ar e-bost i: dir@angleseyshow.org.uk
Dyddiad Cau : Hanner Dydd, 31.8.26 Am ymholiadau anffurfiol cysylltwch gyda Swydda’r Sioe ar 01407 720072 neu dir@angleseyshow.org.uk |
This is an advert for the post of Principal Officer for the Anglesey Agricultural Society for which the ability to work in both Welsh and English, written and verbal is ESSENTIAL. |
