top of page

Eisteddfod yr Urdd Môn 2026 yn cyrraedd Maes Sioe Môn

  • Writer: Cymdeithas Amaethyddol Môn
    Cymdeithas Amaethyddol Môn
  • May 22
  • 1 min read

Eisteddfod yr Urdd Môn 2026 yn cyrraedd Maes Sioe Môn

 

Mae’n bleser gennym groesawu Eisteddfod yr Urdd i Faes Sioe Môn dros yr wythnos nesaf.

 

Bydd miloedd o ymwelwyr, cystadleuwyr, teuluoedd a gwirfoddolwyr yn ymweld â’r maes wrth i un o wyliau ieuenctid a diwylliannol mwyaf Ewrop gael ei chynnal yma ar Ynys Môn.

 

Er bod gweithgareddau a gwaith paratoi eisoes ar y gweill ar y maes, bydd yr Eisteddfod yn dechrau’n swyddogol ddydd Sadwrn 23 Mai 2026.

 

⚠️ Sylwer:

Bydd swyddfa Cymdeithas Amaethyddol Môn ar gau i’r cyhoedd o ddydd Sadwrn 23 Mai tan ddydd Llun 1 Mehefin oherwydd yr Eisteddfod.

Bydd aelodau staff yn dal i fod ar y safle yn gweithio drwy gydol y cyfnod, felly os oes angen cysylltu â ni, ffoniwch neu e-bostiwch y swyddfa fel arfer.

 

Dymunwn y gorau i bawb sy’n cystadlu, perfformio ac ymweld â’r Eisteddfod, ac edrychwn ymlaen at weld y maes yn llawn bywyd dros yr wythnosau nesaf.

 

Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ar wefan yr Urdd:

 

 
 
bottom of page