EnglishYouTube

Sioe Môn

Awst 13eg a 14eg

Giatiau ar agor o 8yb

Ein hanes

Cafodd Cymdeithas Amaethyddol Môn ei lansio am y tro cyntaf ar Mai 12 a Mehefin 6 1808. Nod y gymdeithas oedd datblygu a meithrin diwygiadau ar draws y sbectrwm amaethyddol cyfan.

Cynigwyd dau bremiwm am anifeiliaid am y tro cyntaf ym 1812, ond ni chynhaliwyd “sioe” fel y gwelir heddiw hyd 1820, lle cafodd 15 premiwm, yn amrywio o 1-10 ginis, eu dyfarnu.

Erbyn canol yr 1840au, roedd y byd amaeth wedi’i barlysu gan glwy'r tatws, ac roedd Cymdeithas Amaethyddol Môn wedi mynd i’r gwellt erbyn 1846.

Ar ôl i Syr Richard Williams-Bulkeley siarad am y pethau da a gyflawnwyd gan y gymdeithas wreiddiol, sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Môn a Sir Gaernarfon newydd ar Hydref 13 1851. Penderfynwyd trefnu sioe flynyddol ym Mangor, Caernarfon a Llangefni yn eu tro.

Erbyn 1872, roedd ffermwyr Ynys Môn yn protestio am orfod talu tollau’r bont er mwyn cludo eu hanifeiliaid i’r sioeau ar y tir mawr, gan achosi iddynt dorri ymaith a symud yn ôl at Gymdeithas Amaethyddol Môn (unwaith eto).

Ar Mai 23 1872, cynhaliwyd cyfarfod i lunio amserlen ar gyfer premiymau ac i ethol swyddogion ar gyfer y gymdeithas newydd.

Llwyddodd y gymdeithas newydd i ddenu cefnogaeth o rannau llawer mwy eang o’r gymdeithas na’i rhagflaenydd. Rhwng 1872 a 1902, roedd nifer y premiymau ar gael wedi dyblu mewn nifer.

Yn ystod y Rhyfel Mawr, cafodd y sioe ei gohirio, a chafodd ei hail-lansio ym 1920. Ond ni lwyddodd i gyrraedd yr un safon hyd nes canol y 1930au.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd y sioe ddatblygu ac addasu i’r her o ddiwallu anghenion cymdeithas a oedd yn newid. Erbyn 1955, roedd y sioe yn denu 14,000 o ymwelwyr.

Yn y 1960au, gydag amaeth yn ffynnu a J.Glyn Williams wrth y llyw, dechreuodd y sioe ddatblygu a thyfu. Cafodd treialon cŵn defaid eu cyflwyno unwaith eto a chynhaliwyd arddangosfeydd trin gwallt am y tro cyntaf erioed.

Sioe 1967 oedd y cyntaf i'w chynnal ym Mona gan ddenu dros 20,000 o ymwelwyr. Erbyn 1970, roedd wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad deuddydd gan adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas. Roedd hyn yn cynnwys pwysigrwydd cynnig arlwy i’r diwydiant twristiaeth, ond nid ar draul anghenion y diwydiant ffermio.

Ym 1975, cafodd y sioe ei chynnal ar ei safle ei hun am y tro cyntaf erioed. Ar ôl i’r rhent am faes awyr Mona gynyddu, aeth y gymdeithas ati i fuddsoddi £54,000 yng Nglan Gors Ddu, fferm 136 o erwau ger Gwalchmai.

Erbyn 1976, roedd y sioe yn cael ei chydnabod fel un o’r goreuon yng Nghymru, gan ddenu 50,000 o ymwelwyr.

Heddiw, mae’r sioe yn dal i gael ei chynnal yng Ngwalchmai dros ddeuddydd, ac yn denu oddeutu 60,000 o ymwelwyr.

top