Lleoliad safonol i’ch digwyddiad?
Mae Maes y Sioe yn cynnig y cyfle perffaith ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau dan-do neu yn yr awyr- agored. Os ydych yn trefnu cynadleddau mawrion, arddangosfeydd, digwyddiadau corfforaethol neu ddigwyddiadau teuluol eu natur medrwn deilwrio pecyn o adnoddau a gwasanaethau a fydd yn ateb eich gofynion yn cynnwys:
- Systemau golau a systemau sain.
- Cymorth gweledol a sain, cynadleddau neu systemau GT
- Systemau ôl-gerbydau/llwyfan a nenfwd ar gyfer perfformiadau a chyngherddau awyr- agored.
- Systemau llwyfannol/deciau/brigdrawst o amrywiol faint ar gyfer cynyrchiadau corfforaethol, theatrig neu deledu.
- Offer effeithiau arbennig ar gyfer cynyrchiadau llwyfan, discos - gyda’r dechnoleg ar gyfer darparu tân gwyllt, peirannau mwg, strôb, ffilmiau, cefndiroedd ayb. Tîm o arbenigwyr gyda phrofiad arbennig i gynnig cyngor a rheoli digwyddiad llwyddiannus.
- Gyda thros 30 mlynedd o brofiad ac enw da am drefnu a lleoli digwyddiadau ar raddfa fawr, a’n telerau ariannol tra chystadleuol, Maes Sioe Môn yw’r lleoliad i chi.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Er mwyn archebu digwyddiad/atyniad ar-lein a fyddech cystal â chysylltu â ni. |