Home Contacts Site Map E-mail
The Anglesey Agricultural Showground


Membership
tourism winner


 
 
Bookmark and Share
 
 

Mae safle 160 acer Sioe Amaethyddol Môn yn safle ardderchog wedi ei leoli yng nghanol Ynys Môn, yn agos i’r A55 ac o fewn cyrraedd i borthladd Caergybi.

Wedi ei leoli ymhlith golygfeydd ysblennydd ac o fewn cyrraedd hawdd i 125 milltir o arfordir eithriadol a thraethau dynodedig, mae’r safle arbennig, teuluol yma yn lleoliad perffaith i gynnal pob math o ddigwyddiadau.

Mae’r adnoddau a’r gwasanaethau ardderchog yn cynnwys maes parcio helaeth i dros 3000 o gerbydau, Neuadd Fwyd anferth gyda chyfarpar llawn ynghyd â chegin arddangos, a Pafiliwn a gynlluniwyd ac a adeiladwyd yn ddiweddar gyda
lle i dros 3,000 neu 1,700 o gynulleidfa i eistedd.

Yn gartref i Sioe Amaethyddol Môn a’r Sioe Aeaf sydd rhyngddynt yn denu dros 65,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Mae’r safle hefyd wedi cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Ffermwyr Ifanc Cymru a phrif
ddigwyddiadau eraill megis Sioe Neidio Ceffylau Rhyngwladol, Ffeiriau Hen Gelfi, Cyngherddau Clasurol a Phop, Sioeau Awyr, Sioeau Masnach,
Marathon Ynys Môn a nifer o gynadleddau ac arddangosfeydd mawreddog.

Er mwyn archebu digwyddiad/atyniad ar-lein a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Yn y rhan hon o'r wefan medrwch ganfod mwy am y canlynol:

Er mwyn archebu digwyddiad/atyniad ar-lein a fyddech cystal â chysylltu â ni.

 

Cartref Sioe Môn Sioe 'Aeaf Môn Y Maes Cysylltiadau

© Hawlfraint 2009 Sioe Môn. Designed by Delwedd