Nawdd
Gall noddi Sioe Môn ddarparu buddiannau gwerthfawr ar gyfer unigolion mewn busnes ac unigolion preifat.
Mae trefniadau mewn llaw ar gyfer Sioe Môn. Sioe Sirol Môn, yn ddiamheuol, yw Prif Sioe Gogledd Cymru gyda phresenoldeb ar gyfartaledd o 58,000 dros y ddau ddiwrnod.
Er mwyn llwyfannu’r fath ddigwyddiad mawreddog mae angen swm enfawr o arian ac mae’r Gymdeithas yn bendant yn ddyledus i nifer o gwmnïau blaengar ac unigolion sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Sioe dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r Gymdeithas yn sylweddoli pwysigrwydd cydnabod ei Noddwyr ac mae’n falch cael y cyfle i gynnig y buddiannau canlynol:
1. Bathodynnau di-dâl ar gyfer mynediad i Faes y Sioe ac i loc yr Is-lywyddion ar ddau ddiwrnod y Sioe. (Nifer y bathodynnau i’w dosbarthu yn ôl maint y nawdd).
2.a. Gwahoddiad i ddau berson fod yn bresennol naill ai yng nghinio’r Noddwyr neu yng Nghinio’r Llywydd. (Lleiafswm £130 + TAW).
2.b. Gwahoddiad i ddau berson i fod yn bresennol yng Nghinio’r Noddwyr a Chinio’r Llywydd (Lleiafswm £165 + TAW).
3.a. Caniateir i faneri hysbysu o’ch nawdd dynodedig gael eu harddangos yn y Cylch/Ardal. (Lleiafswm nawdd £165 + TAW).
3b. Caniateir i faneri gael eu harddangos yn y Prif Gylch (os yw swm y nawdd dros £200 + TAW).
4.Cydnabyddiaeth am ddim yn Rhaglen Swyddogol y Sioe (cylchrediad o tua 2,000 - 3,000 o gopïau dros gyfnod y Sioe).
5. Cydnabyddiaeth yn yr Adroddiad Blynyddol (a ddosberthir rhwng tua 1,000 o Is-lywyddion/Aelodau a Noddwyr yn gynnar ym mis Ionawr).
6. Te/Coffi a Bisgedi am ddim rhwng 10 am a 5 pm ar gael yn Ardal Orffwys y Noddwyr, gyda balconi uwchlaw’r Prif Gylch.
Dylid gwneud pob ymholiad i Mr Aled Hughes neu Mrs Ffion Jones ar 01407 720072.
Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn yr oeddech yn edrych amdano. Os na wnaethoch, yna teimlwch yn gwbl rydd i gysylltu â ni.
|