The Anglesey Agricultural Showground - Safle Sioe Amaethyddol Mon
 

Sioe

NEWYDD ~ Dyddiadau Sioe 2008 ~ Awst 12 a 13, 2008

muller

Canfyddwch fwy:


NEWYDD: I weld lluniau o'r awyr ... cliciwch ymaos gwelwch yn dda.

Bydd ymhell dros 59,000 o bobl yn ymweld â Sioe Sirol Môn ac mae hi’n agored i’r cyhoedd yn ddyddiol o 8.00 am tan 7.00 pm.

Prisiau Mynediad:

  • Oedolion £12
  • Pensiynwyr £8
  • Plant dros 5 oed £3

Dyma’r prif nodweddion a digwyddiadau...

  • Atyniadau’r prif gylch ar y ddau ddiwrnod
  • Treialon Rhyngwladol Cŵn Gynnau - Timau o Gymru, Iwerddon a Lloegr
  • Ceffylau Gwedd a Dosbarthiadau Arwisgo a Gyrru
  • Dros 300 o geffylau Dosbarthiadau Ysgafn
    Yn cynnwys Ceffylau Lliw, Appaloosa, Shetland, Ceffylau Arab, Adrannau Cobiau A, B, C a D a Dosbarthiadau Cyfrwy Ochrog
  • Cystadlaethau Codi Waliau Cerrig Sychion
  • Prif Anifeiliaid Stôr i’w Harddangos - Pebyll Gwartheg Bîff a Llefrith, Geifr a Moch, Dofednod, Colomennod a Chwningod
  • Pebyll Cynnyrch – arddangosfeydd Garddwriaethol gan gystadleuwyr ledled y wlad
  • Pebyll Crefftau
  • Prif Orymdaith ar y ddau ddiwrnod
  • Cymdeithas Hen Gerbydau Sir Fôn yn gorymdeithio
  • Prif Neidwyr Sioe Rhyngwladol – prif wobr o £2,000
  • Prif Gneifwyr Rhyngwladol i’w gweld
  • Dros 350 o stondinau masnachol yn cynnwys Siopa ac Arddangos a Neuadd Fwydydd
  • Ardal Diddordebau Gwlad – arddangosfeydd Hebogiaeth a Rasio Ffuredau
  • Cinio Blynyddol y Llywydd
    Nos Fawrth – dros 600 o westeion yn cynnwys Swyddogion y Sioe, Is-lywyddion a noddwyr
  • Pabell Adloniant
    Amrywiol Sioeau a Pherfformiadau ar gyfer y teulu’n gyfan – o Sioeau Ffasiwn i Adloniant Plant.


Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn yr oeddech yn edrych amdano. Os na wnaethoch, teimlwch yn gwbl rydd i gysylltu â ni.

 
Photos of events
<empty>
<>
Valid CSS!
This Page Is Valid HTML 4.01 Transitional!
Tell-a-friend Marciwch Ni Argraffu