Y Safle
Mae safle 160 acer Sioe Amaethyddol Môn yn safle ardderchog wedi ei leoli yng nghanol Ynys Môn, yn agos i’r A55 ac o fewn cyrraedd i borthladd Caergybi.
Wedi ei leoli ymhlith golygfeydd ysblennydd ac o fewn cyrraedd hawdd i 125 milltir o arfordir eithriadol a thraethau dynodedig, mae’r safle arbennig, teuluol yma yn lleoliad perffaith i gynnal pob math o ddigwyddiadau.
Mae’r adnoddau a’r gwasanaethau ardderchog yn cynnwys maes parcio helaeth i dros 3000 o gerbydau, Neuadd Fwyd anferth gyda chyfarpar llawn ynghyd â chegin arddangos, a Pafiliwn a gynlluniwyd ac a adeiladwyd yn ddiweddar gyda
lle i dros 3,000 neu 1,700 o gynulleidfa i eistedd.
Yn gartref i Sioe Amaethyddol Môn a’r Sioe Aeaf sydd rhyngddynt yn denu dros 65,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Mae’r safle hefyd wedi cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Ffermwyr Ifanc Cymru a phrif
ddigwyddiadau eraill megis Sioe Neidio Ceffylau Rhyngwladol, Ffeiriau Hen Gelfi, Cyngherddau Clasurol a Phop, Sioeau Awyr, Sioeau Masnach,
Marathon Ynys Môn a nifer o gynadleddau ac arddangosfeydd mawreddog.
Er mwyn archebu digwyddiad/atyniad ar-lein a fyddech cystal â chysylltu â ni.
|