09/08/07
DATGANIAD:
SIOE MON I`W CHYNNAL
- cliciwch yma am fwy o fanylion
08/08/07
URGENT NEWS RELEASE ANGLESEY SHOW IS TO GO AHEAD AS PLANNED
NEXT WEEK –14/15 AUGUST.
- click here for further details
25:08:06
Fe wnawn droi digwyddiadau maes ein sioe yn ‘fecca' Dywedodd Andrew Forgrave
(Golygydd Materion Gwledig y Daily Post a Newyddiadurwr Amaethyddol y Flwyddyn 2006):
Mae Ynys Môn yn anelu at fod yn brif faes sioe amaethyddol ranbarthol Cymru.
Mae gan Gymdeithas Amaethyddol Môn gynlluniau ar gyfer troi’r maes sioe yng Ngwalchmai yn ‘fecca’ ar gyfer prif ddigwyddiadau Ewrop.
Lansiwyd gwefan newydd a thaflen gan Gadeirydd y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Gymreig, Alun Evans o Fryncrug, Gwynedd a chadarnhaodd eu bod yn llogi cwmni marchnata i hyrwyddo maes y sioe.
Mae Ynys Môn am wella’i marchnata, a’r gwanwyn diwethaf arwyddodd gytundeb a ariannir gan y Comisiwn Digwyddiadau â Digwyddiadau MP Events o Gaernarfon, a sefydlwyd ddwy flynedd a hanner yn ôl gan y cyn-actor a’r diddanwr Mici Plwm.
Gyda neuadd ddigwyddiadau 1700-sedd a pharcio ar gyfer dros 3000 o geir, mae swyddogion maes y sioe a Digwyddiadau MP Events yn anelu at elwa ar drafnidiaeth fferi Caergybi. Mae cynlluniau ar gyfer addasu’r neuadd yn theatr a fydd yn gwasanaethu Ynys Môn yn gyfan hefyd yn cael eu hystyried.
Hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, cred y trefnwyr y gallant ddenu digwyddiadau Ewropeaidd pan, ac os, fydd awyrennau masnachol yn cychwyn hedfan o’r Fali i Gaerdydd ac, o bosibl, i Ddulyn.
Cred swyddogion sioe Môn fod eu safle 160-erw nid nepell o’r A55 yn medru ymffrostio yn yr adnoddau a chysylltiadau trafnidiaeth y gellir eu cymharu â’r gorau.
16:08:06
I weld lluniau o'r awyr, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Y newyddion diweddaraf o Gymdeithas Amaethyddol Môn oddi wrth Dan Jones, Swyddog y Wasg – 01248 810160
Brig y ffasiwn, medrau marchogol a’r Fyddin Brydeinig… dyna dri o’r prif gynhwysion a ddewiswyd i ddenu’r torfeydd i ddigwyddiad bythol-boblogaidd Sioe Sirol Môn y mis Awst hwn.
Bydd y Fyddin ar flaen y gad dros y ddau ddiwrnod, Awst 15 a 16, ac mewn arddangosiad gwych o gyflymdra, cyffro a dawn arddangos bydd y Flying Gunners - Tîm Arddangos Motor-beics y Magnelwyr Brenhinol - yn gwefreiddio’r gwylwyr. Bydd y gyrwyr, oll yn filwyr wedi eu hyfforddi’n llawn ac yn seiliedig yn Larkhill, Salisbury yn cymryd rhan mewn tua 120 o berfformiadau mewn lleoliadau gwahanol bob blwyddyn; yn eu plith, i enwi ond ychydig, mae’r Twrnamaint Brenhinol, Sioe Haf Byddin y Rhein, Tatŵ Caeredin, y Sioe Lotri Genedlaethol, Noel Edmunds House Party a Blue Peter. Mae eu perfformiadau’n cyfuno trawsyrru dwbl ar gyflymdra anhygoel o bedwar cornel yr arena gyda’r cyflymdra wrth gloi yn medru cyrraedd 90 milltir yr awr. Bydd arddangosfeydd rhyfeddol o gyflymdra a chydbwysedd yn cyfuno i adlewyrchu sgiliau’r gyrwyr hyn; yr uchafbwynt yw naid aruthrol dros bedwar neu fwy o geir modur, a cheir enghraifft o’r gwaith tîm a chanolbwyntio wrth i byramid symudol y Flying Gunners symud ar draws yr arena.
Un o brif atyniadau eraill y cylch eleni – ond ar y diwrnod agoriadol yn unig – fydd arddangosiad gan "Area 11" o’r Gymdeithas Cyfrwy Ochrog. Bydd pedwar marchog yn cyflwyno perfformiad rhyfeddol o fedrau marchogol a cheinder symudol yn cynnwys neidio i gyfeiliant miwsig ynghyd â sylwebaeth a fydd yn disgrifio’r marchogion, eu ceffylau a hanes marchogaeth cyfrwy ochrog ac o’r Gymdeithas ei hun.
O ran ffasiwn, bydd y sioe yn cyflwyno Jane Davies, a hynny am y trydydd tro yn olynol. Mae’r cynllunydd talentog o Dreffynnon, sydd â label sy’n gyfystyr ag ansawdd, arloesiad a detholrwydd - yn defnyddio thema a fydd yn cychwyn gyda dillad ar gyfer eu gwisgo’n atyniadol gyda’r dydd gan adeiladu at ddillad nos tra eithafol.
Mae stori lwyddiannus Jane Davies yn parhau. Mae hi ar fin cynhyrchu ei rhaglen deledu gyntaf - Family Fashion - ar gyfer ITV. Mae hyn yn dilyn canlyniad ei gwaith gwych dros y blynyddoedd diwethaf yn cynllunio lifrai ar gyfer Canolfan Gymreig y Mileniwm a lansiad casgliadau newydd yn Dubai gyda gwisgoedd nofio ar gyfer cylchgrawn FHM a Sky Television.
Gan barhau dros y blynyddoedd diwethaf hyn, cafwyd Jane Davies Cymru - ystod o ddillad yn defnyddio’r faner genedlaethol - gyda phob eitem yn cario’n falch y label ‘Gwnaed yng Nghymru’. Cymreigrwydd yw craidd dillad Jane Davies. Dywed, ‘Credaf yn gryf mewn addasu arbenigrwydd gwneuthurwyr tecstilau Cymreig ddim yn unig oherwydd eu hansawdd arbennig o uchel ond hefyd am fy mod yn medru bod yn rhan mewn arolygu’r samplu a’r cynhyrchu.’
Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn yr oeddech yn edrych amdano. Os na wnaethoch, yna teimlwch yn gwbl rydd i gysylltu â ni.