The Anglesey Agricultural Showground - Safle Sioe Amaethyddol Mon
 

Aelodaeth

Ar gyfer derbyn croeso VIP ar ddyddiau’r Sioe, pam na wnewch chi ddod yn aelod neu’n Is-lywydd … (Mae tanysgrifiadau yn ddyledus yn flynyddol ar 31 Mawrth)

Cymdeithas Amaethyddol Môn – Breintiau Aelodaeth

Aelodaeth Sengl – neu dros hynny yn flynyddol.

  1. Un Bathodyn Aelod ynghyd â mynediad am ddim i’r Maes ar ddau ddiwrnod y Sioe.
  2. Adnoddau parcio car am ddim yn lloc yr Aelodau – wedi ei leoli wrth ymyl y Maes.
  3. Mynediad am ddim i Babell Orffwys yr Is-lywyddion/Aelodau – ynghyd â defnydd llawn o’r adnoddau te a chinio a’r bar trwyddedig.
  4. Tâl mynediad o hanner y raddfa arferol ymhob adran (Ar wahân i’r neidio sioe).
  5. Cyfranogi i bennu polisi'r Gymdeithas yn y Cyfarfod Blynyddol
  6. Cyfranogi i baratoad Atodlen Dosbarthiadau a Gwobrau'r Gymdeithas ayb yn yr Is-Bwyllgorau Adrannol ac yn y Pwyllgor Rheoli Blynyddol.
  7. Hawl i gopïau o holl gyhoeddiadau’r Gymdeithas fel Atodlen yr Adrannau a’r Gwobrau, Adroddiadau Blynyddol ayb.

Aelodaeth ddeuol - £28 neu dros hynny yn flynyddol
yn eich teilyngu i freintiau dau aelod.

Aelodaeth deuluol - £38 neu dros hynny yn flynyddol
Teilyngu breintiau’r Aelodaeth Ddeuol yn ogystal â thocynnau mynediad i’r Sioe i’w plant o dan 16 oed. (Rhaid i blant gael eu cofrestru gan Swyddfa’r Gymdeithas).

Is-lywydd Sengl- £38 neu dros hynny yn flynyddol

Yn ogystal â breintiau 3,4,5,6 a 7, bydd Is-lywydd Sengl hefyd yn derbyn:

  1. Un bathodyn Is-lywydd ynghyd â mynediad am ddim i’r Maes ar ddau ddiwrnod y Sioe.
  2. Adnoddau parcio car am ddim yn lloc yr Is-lywyddion – wedi’i leoli gerllaw’r Maes.
  3. Gwahoddiad i un i Ginio’r Llywydd ar Faes y Sioe.

Dau Is-lywydd - £6 neu dros hynny yn flynyddol.
Teilyngdod ar gyfer breintiau dau Is-lywydd

Is-lywydd Teuluol - £65 neu dros hynny yn flynyddol.
Teilyngdod ar gyfer breintiau dau Is-lywydd yn ogystal â thocynnau mynediad i’r Sioe i’w plant o dan 16 oed. (Rhaid i blant gael eu cofrestru gan Swyddfa’r Gymdeithas).

Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn yr oeddech yn edrych amdano. Os na wnaethoch, yna teimlwch yn gwbl rydd i gysylltu â ni.

Photos of events
<empty>
<>
Valid CSS!
This Page Is Valid HTML 4.01 Transitional!
Tell-a-friend Marciwch Ni Argraffu