Home Contacts Site Map E-mail
The Anglesey Agricultural Showground
Membership

Gall noddi Sioe Môn ddarparu buddiannau gwerthfawr ar gyfer unigolion mewn busnes ac unigolion preifat.
Mae trefniadau mewn llaw ar gyfer Sioe Môn. Sioe Sirol Môn, yn ddiamheuol, yw Prif Sioe Gogledd Cymru gyda phresenoldeb ar gyfartaledd o 58,000 dros y ddau ddiwrnod.
Er mwyn llwyfannu’r fath ddigwyddiad mawreddog mae angen swm enfawr o arian ac mae’r Gymdeithas yn bendant yn ddyledus i nifer o gwmnïau blaengar ac unigolion sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y Sioe dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r Gymdeithas yn sylweddoli pwysigrwydd cydnabod ei Noddwyr ac mae’n falch cael y cyfle i gynnig y buddiannau canlynol:
£130.00 heb gynnwys TAW

  1. 2 Fathodyn Noddwyr di-dâl (rhoi hawl mynediad di-dâl i Faes y Sioe am ddau ddiwrnod y Sioe) cynnwys
  2. Gwahoddiad i 2 berson i fynychu Cinio’r Llywydd (Nos Fawrth y Sioe - yn agos i 650 o westai. Pryd 5 cwrs gyda a siaradwr/aig gwadd)
    NEU
    Gwahoddiad i 2 berson fynychu cinio/Bwffe ar gyfer y Noddwyr ar sil ddiwrnod y Sioe - DYDD MERCHER (Rhwng 12 a 2 y.p)
  3. Te/Coffi a bisgedi (di-dâl) ar gael o 10yb hyd at 5yp yn Ystafell Gorffwys Y Noddwyr ar y ddau ddiwrnod – gyda toiledau preifat a balconi yn goruchwylio y Prif Gylch
  4. Disgownt o 20% ar gost o hysbysu yng Nghatalog Swyddogol neu Rhaglen y Sioe.
  5. Caniatâd i godi UN baner hysbysebu yn nghylch beirniadu y dosbarth yr ydych yn ei noddi (heblaw am y Prif Gylch)
  6. Cydnabyddiaeth rad ac am ddim yng Nghatalog Swyddogol Y Sioe (fe ddosbarthir rhwng 2,000-3,000 dros gyfnod y Sioe)
  7. Cydnabyddiaeth yn Blwydd lyfr y Gymdeithas (dosbarthir tua 1,200 i Is-Lywyddion/Aelodau ym mis Ionawr).
  8. Cyhoeddiad/cydnabyddiaeth yn ystod amser y dosbarth/iadau a noddir.
  9. Cynrychiolydd i gyflwyno y gwobrau i’r enillwyr yn y dosbarth/iadau a noddir (os yn briodol a gyda threfniadau blaenorol)
  10. Parcio yn ddi-dâl yn Maes Parcio y Noddwyr.

£175.00 heb gynnwys TAW
Yn ogystal â breintiau 1,3,4,5,6,7,8,9 a 10 bydd noddwyr o £175.00 heb gynnwys TAW hefyd yn derbyn gwahoddiad i 2 berson i fynychu cinio canol dydd ar gyfer y Noddwyr a Chinio’r Llywydd.

£250.00 heb gynnwys TAW
Yn ogystal â breintiau 1,3,4,5,6,7,8,9 a 10 bydd noddwyr o £250.00 heb gynnwys TAW hefyd yn derbyn gwahoddiad i 3 berson i fynychu cinio canol dydd ar gyfer y Noddwyr a Chinio’r Llywydd.

£300.00 heb gynnwys TAW
Yn ogystal â breintiau 1,3,4,5,6,7,8,9 a 10 bydd noddwyr o £300.00 heb gynnwys TAW hefyd yn derbyn gwahoddiad i 4 berson i fynychu cinio canol dydd ar gyfer y Noddwyr a Chinio’r Llywydd.

(MAE BUDDIADAU I SWM £300.00 HEB GYNNWYS TAW YN NEGODIOL)
Cliciwch yma i lawrlwytho y manylion uchod a'r ffurflen noddi.
Dylid gwneud pob ymholiad i Mr Aled Hughes neu Mrs Ffion Jones ar 01407 720072.

Yn y rhan hon o'r wefan medrwch ganfod mwy am y canlynol:

Er mwyn archebu digwyddiad/atyniad ar-lein a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Cartref Sioe Môn Sioe 'Aeaf Môn Y Maes Cysylltiadau

© Hawlfraint 2009 Sioe Môn. Designed by Delwedd